Dyma i chi lwybr diddorol, a sefydlwyd gan Gyngor Tref Nefyn gyda grant o Gronfa Cymunedau’r Arfordir, Llywodraeth Cymru. Mae Llwybr y Morwyr wedi ei seilio ar hen lwybrau yr arferai morwyr eu ddefnyddio i gerdded yn ôl ac ymlaen rhwng ardaloedd Nefyn a Llanbedrog/Abersoch yn yr 19fed Ganrif. Mae’r llwybr yn ymestyn o dref hanesyddol Nefyn i Abersoch ar draws y penrhyn ac yn mesur tua 17 cilometr.
Mae digon i’w weld a’i fwynhau ar Lwybr y Morwyr. Ceir golygfeydd gwych o’r penrhyn, yr arfordir a’r môr o sawl man ac mae’r llwybr yn mynd trwy gynefinoedd naturiol diddorol yn cynnwys tir pori garw, corsydd, coedwigoedd a rhostir. Hefyd mae llawer o olion archeolegol a hanesyddol i’w gweld ar y daith. Am fwy o wybodaeth cerwch ar Taith Pen Llŷn - Llwybr y Morwyr (arcgis.com) neu am fap o’r llwybr cerwch ar Llwybr y Morwyr walking trail (osmaps.com).
2025 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS