Mae Llŷn yn lle llawn hanes gyda treftadaeth gyfoethog. Gellir gweld olion hanesyddol yn dyddio yn ôl i’r cyfnod cyn Crist yn yr ardal – fel y cromlechi yn Bachwen, Clynnog a Chefnamwlch, Tudweiliog a’r caerau Oes yr Haearn a’r Oes Efydd sydd ar nifer o fryniau fel Garn Boduan a Tre’r Ceiri. Am fwy o wybodaeth am hanes cynnar Llŷn gwelwch safle we Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Bu crefydd yn rhan bwysig o dreftadaeth Llŷn o’r cyfnod cynnar. Mae olion Abaty y Santes Fair yn dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif i’w weld ar Enlli ac mae nifer o ffynhonnau sanctaidd, eglwysi hanesyddol a chapeli yn perthyn i bob enwad. Mae’r safleoedd ac adeiladau pwysicaf wedi eu cofrestru fel henebion neu adeiladau rhestriedig gan Cadw. Am fwy o wybodaeth gweler :cadw.llyw.cymru
Ffermio a physgota oedd y diwydiannau cynhenid cynnar ac maent yn parhau yn bwysig hyd heddiw. Datblygodd masnach arfordirol ac adeiladu llongau yn yr ardal ac mae cysylltiadau morwrol cryf yn parhau hyd heddiw.Yn ddiweddarach daeth mwyngloddio a chwareli ithfaen yn bwysig gan adael eu hôl ar dirlun Llŷn.
Cymraeg yw iaith gynhenid Penrhyn Llŷn ac mae dros 70% o’r boblogaeth breswyl yn parhau i siarad yr iaith. Mae’r iaith i’w chlywed ymhobman ac i’w gweld mewn enwau lleoedd, ar arwyddion ac mewn print.Mae diwylliant unigryw yn perthyn i’r ardal – yn gymysgedd o hanes, enwau llefydd, chwedlau a hanesion, llenyddiaeth a barddioniaeth.
Mae llawer o hanes a diwylliant Llŷn yn cael ei adrodd a’i ddathlu gan sefydliadau treftadaeth a diwylliannol yn yr ardal. Mae saith o’r sefydliadau hyn wedi cydweithio i greu Ecoamgueddfa. Gellir cael mwy o wybodaeth am y sefydliadau hyn a’r Ecoamgueddfa twy ddilyn y linc: ecoamgueddfa.org
2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS