Prosiectau AHNE

Prosiectau AHNE

Rhan bwysig o waith yr Uned AHNE yw datblygu a gwireddu prosiectau. Dyma ddetholiad o brosiectau y bu i’r Uned AHNE fod yn gweithio arnynt yn ddiweddar:

Tanddaearu Gwefrau Trydan

Tanddaearu Gwefrau Trydan

Lansiwyd cynllun gan OFGEM (Corff llywodraethol sy’n goruchwylio marchnadoedd nwy a thrydan) a oedd yn rhoi lwfans i’r cwmnïau cyflenwi trydan a’r Grid Cenedlaethol i dan-ddaearu gwifrau a chyfarpar trydan mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Un o’r cynlluniau diweddaraf i’w gwblhau yn AHNE Llyˆn oedd ar Foel Gron, Mynytho. Yn ogystal â bod yn yr AHNE mae’r Foel Gron yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn dir comin. Bu i’r Uned AHNE sylwi fod y gwifrau yn amlwg ar y tirwedd a trafodwyd y posibilrwydd o’u tan-ddaearu gyda Scottish Power (SP). Trwy gydweithrediad y tirfeddianwyr gwireddwyd y cynllun tan-ddaearu gan SP gan wella edrychiad y safle a’r golygfeydd o amgylch. Un agwedd ddiddorol o’r gwaith yma oedd y defnyddiwyd ceffyl i dynnu’r hen bolion o’r safle er mwyn arbed tramwyo efo peiriannau.

Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

Mae’r Uned AHNE, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn trefnu cyrsiau hyfforddiant sgiliau gwledig am ddim ers blynyddoedd. Cyrsiau ydi’r rhain sy’n rhoi hyfforddiant ar sut i adfer a chynnal terfynau traddodiadol. Mae’r cyrsiau yn gyfle perffaith i gymdeithasu yn yr awyr iach a dysgu crefft sydd wedi siapio ein tirlun ers cannoedd o flynyddoedd. Mae’r terfynau caeau yma yn Llŷn yn rhan amlwg a phwysig o’r tirlun arbennig ac unigryw, ac yn olion o ffordd o fyw ac amaethu ers canrifoedd.

Mae’r terfynau – sef waliau cerrig, cloddiau a gwrychoedd – hefyd yn cynnig cysgod i dda byw ac yn gynefin pwysig i bob math o greaduriaid.

Prosiect Nos

Prosiect Nos

Mae Uned AHNE Llŷn yn cydweithio gyda AHNE Ynys Môn, AHNE Bryniau Clwyd a Pharc Cenedlaethol Eryri ar y prosiect Nos. Bwriad y prosiect yw cynnal, gwarchod a hyrwyddo awyr dywyll y nos yn yr ardaloedd a gweithio ar statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Eisoes mae’r Parc Cenedlaethol wedi derbyn statws Gwarchodfa Awyr Dywyll tra mae’r 3 AHNE yn gweithio tuag at statws Cymuned Awyr Dywyll. Fel rhan o’r prosiect byddwn yn cydweithio i fonitro yr awyr dywyll, codi ymwybyddiaeth am lygredd goleuadau a chynnal digwyddiadau gwylio sêr. Mae gwaith prosiect Nos yn cael ei gydgordio y swyddog prosiect – Dani Robertson: Dani.Robertson@eryri.llyw.cymru

Gellir cael mwy o wybodaeth am brosiect Nos drwy ddilyn y linc ganlynol: www.discoveryinthedark.wales/cym/project-nos


Prosiectau Cyfalaf wedi eu hariannu gan Llywodraeth Cymru

Ers 2016 mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid i gefnogi prosiectau cyfalaf yn yr AHNE gan Lywodraeth Cymru (mae AHNE eraill wedi derbyn cefnogaeth debyg). Mae’r arian yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi caniatáu inni wneud llawer o welliannau yn yr ardal. Dyma wybodaeth am rai o’r prosiectau a gafodd eu gwireddu drwy’r cynllun hwn.



Cylchdaith Gyrn Goch

Cylchdaith Gyrn Goch

Roedd y gylchdaith hon ar gau oherwydd fod y bont dros afon Hen wedi pydru ac yn amhosibl ei chroesi.

Prif ffocws y prosiect felly oedd gosod pont newydd dros yr afon er mwyn ail-agor y gylchdaith a chreu mynediad i goedwig gerllaw a thir mynediad Gyrn Goch. Gwnaed gwelliannau eraill i’r daith hefyd trwy gyfnewid camfa am giât ac ail-wynebu rhan o’r llwybr. Cylchdaith eithaf byr yw hon ond mae’n darparu cyfle i gerdded drwy amryw o dirweddau yn cynnwys coedwig a thir heb ei wella efo amryw o blanhigion gwyllt.

Cerbydau Trydan newydd i'r Uned AHNE

Cerbydau Trydan newydd i'r Uned AHNE

Fel rhan o’r ymdrech i ddatgarboneiddio gwasanaethau’r AHNE a Chyngor Gwynedd, defnyddiwyd cyfran o’r grant cyfalaf i brynu fan drydan i Warden yr AHNE a char trydan i’r uned AHNE. Roedd hyn yn golygu cael gwared ar yr hen gerbydau diesel a thrwy hynny leihau ôl troed carbon y gwasanaeth. Defnyddir pwyntiau sydd yn swyddfeydd Ffordd y Cob, Pwllheli i wefru’r cerbydau.

2025 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS