Mae’r Uned AHNE wedi ei leoli yn swyddfa’r Cyngor ym Mhwllheli.
Prif amcan yr uned yw rheoli’r AHNE o ddydd i ddydd ag i weithredu’r Cynllun Rheoli sydd wedi ei lunio’n benodol ar gyfer yr ardal.
Cliciwch yma i wybod mwy am reoli'r AHNE a gweld copi o'r Cynllun Rheoli.
Mae’r Uned yn cynnwys dau aelod o staff.
Fel y Swyddog AHNE, mae Bleddyn yn arwain gwaith y Cyngor ar weithgareddau creiddiol yr AHNE, sef arwain, a chydlynu y gwaith o baratoi a gweithredu y Cynllun Rheoli statudol ar gyfer yr ardal.
Fel Swyddog Prosiectau, mae Morus yn arwain ar brosiectau yn deillio o’r Cynllun Rheoli. Elfen arall o’r gwaith yw gweithredu grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, trefnu digwyddiadau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am yr AHNE, a chynorthwyo i weithredu a diweddaru'r Cynllun Rheoli.
Penodwyd Kevin Roberts yn Warden Cefn Gwlad yr AHNE yn Mawrth 2021 gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Warden yn arwain ar brosiectau mynediad, natur a cynnal a chadw yn yr AHNE ac cydweithio gyda ein tîm o wirfoddolwyr.
2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS