Newyddion diweddaraf – edrychwch ar dudalen Instagram AHNE Llŷn.
Rydym yn cynnal amryw o ddigwyddiadau yn cynnwys teithiau cerdded, hyfforddiant sgiliau gwledig a sgyrsiau, cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Mae ein rhifyn diweddaraf o newyddlen Llygad Llŷn ar gael yn ddigidol yma (yn ogystal â rhifynnau blaenorol). Copïau caled hefyd ar gael mewn amryw o siopau lleol ac atyniadau megis Nant Gwrtheyrn ac Oriel Plas Glyn y Weddw. (Os ydych yn berchen ar fusnes neu atyniad yn lleol ac yn dymuno derbyn bocs i’w ddosbarthu ymysg eich cwsmeriaid, cysylltwch gyda ni).
Hefyd, buasem yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y rhifyn diweddaraf – ac yn gwerthfawrogi eich barn!
Unwaith eto eleni mae’r Uned Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth. Dyma gyfle i chi i ddangos eich gallu gyda’r camera ac ennill gwobr gwerth chweil ! Y thema ar gyfer y gystadleuaeth eleni ydi yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae ardal Llŷn frith o adeiladau, strwythurau ac olion hanesyddol ac mae’r amgylchedd hanesyddol unigryw wedi ei adnabod fel un o rinweddau’r ardal. Gall lluniau fod yn rhai o dai, capeli, eglwysi, adeiladau fferm, melinau, pontydd, cromlechi, meini hirion, tai crynion, olion chwareli. waliau cerrig ayb.
Caniateir hyd at ddau lun i bob ymgeisydd.
Mae cyfle i chi ennill y gwobrau gwych canlynol :–
1af – Tocyn anrheg o £120 i aros yn Nant Gwrtheyrn
2ail – Te prynhawn i ddau yn Caffi Ni, Wern, Nefyn
3ydd– Tocyn anrheg o £25 i siop Tonnau yn Pwllheli
Gyrrwch eich llun(iau) dros e-bost at ahnellynaonb@gwynedd.llyw.cymru gan nodi eich enw llawn ac ymhle cafodd y llun ei dynnu.
Dyddiad Cau – Dydd Gwener, Medi 1af 2023.
Rhowch gynnig arni a phob lwc!
Caiff yr enillwyr eu dewis gan banel annibynnol a benodir gan Uned AHNE Llŷn
2023 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS